Trech yw cariad nag afonydd,
Creulonach yn ei rwysg na'r bedd;
Fflam angerddol o'r uchelder,
Cariad y cyfammod hedd:
Anorchfygol,
Yw ei gariad dwyfol ef.
Cariad Tad a welai'n rhoddi,
Cariad Meichai welai'n un,
'N ymaflyd yn y gwpan chwerw,
A'i hyfed tros y marwol ddyn:
F'enaid cofia,
Cān a diolch byth am hyn.
Llamu wnaeth dros bob mynyddoedd,
Neidiodd tros y bryniau'n un;
Nid oedd dyfroedd all'sai oeri,
Ei gariad at y marwol ddyn:
O anfeidrol,
Rās ei gariad dwyfol ef.
Richard Jones ?1771-1833
[Mesur: 878747] |
Mightier is love than rivers,
More cruel in its power than the grave;
An undying flame from the height,
The love of the covenant of peace:
Insuperable,
Is his divine love.
The love of a Father I see giving,
The love of a Surety I see the same,
Throwing itself into a bitter cup,
And drinking it for the mortal man:
My soul, remember,
Sing with thanks forever for this!
Leap it did across all mountains,
Jumped across the hills the same;
There were no waters that could chill,
His love towards mortal man:
O immeasurable,
Grace of his divine love!
tr. 2016 Richard B Gillion
|
|